|
Since forming in 2010 they have played at numerous festivals and folk nights including; Gower folk festival, Gwyl Tegeingl, Abergavenny Food Festival, Clytha Cider festival, Pontardawe Folk festival, Fishguard folk festival, Eisteddfod, Cardiff Harbour festival, RHS Flower show, Halfpenny folk club, Chapter Arts Centre and Gwdihw.
|
|
Olion Byw sef Lucy Rivers a Dan Lawrence - a rhyngddynt maent yn chwarae cyfuniad o ffidil, gitâr, mandolin a llais. Mae eu trefniannau ffres a chyffrous o alawon a chaneuon traddodiadol Gymreig yn frith o gyfansoddiadau gwreiddiol, a phopeth yn deillio o’u hangerdd tuag at gerddoriaeth roots, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth fyd. Gellir clywed traciau o’u halbym gyntaf Hen Bethau Newydd yn rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales. Ers iddynt ddechrau canu gyda’i gilydd yn 2010 maen nhw wedi chwarae mewn nifer o wyliau a nosweithiau gwerin yn cynnwys; Gŵyl Werin Gŵyr, Gŵyl Tegeingl, Gŵyl Fwyd y Fenni, Gŵyl Seidr Clytha, Gŵyl Werin Pontardawe, Gŵyl Werin Abergwaun, Eisteddfod, Gŵyl Harbwr Caerdydd, Sioe Flodau'r RHS, Halfpenny folk club, Canolfan Gelfyddydau Chapter a Gwdihŵ.
|