|
Wedi ei seilio ar gyfres o brops dyfeisgar mecanyddol a strwythurau rhyng-gysylltiol sydd ag ewyllys eu hunain, mae R.U.H.M. yn tyrru i ddychymyg ffantasïol acrobat sy’n eistedd yn synfyfyrio am abswrdiaeth bywyd, a’r oes sydd ohoni. Daw dyfeisiadau a gweithwyr yn fyw yn eu hystafell fyw ac o flaen y gynulleidfa wrth i gwestiwn godi – Allwn ni stopio symudiad amser? Pwy – neu beth – sy’n pennu ein ffordd drwy amser? Ym mhle mae dod o hyd i’r cysylltiad dynol o fewn y dechnoleg sy’n cael ei chreu o’n hamgylch? Yn cynnwys campau syfrdanol awyrol, corfforol ac acrobateg, uwchben, oddi mewn ac o gwmpas set sy’n gymaint o ran o’r sioe a’r perfformwyr eu hunain, mae R.U.H.M. yn brofiad syrcas gwych.
|