|
Mae Jess Hall yn gantores-gyfansoddwraig a phianydd. Mae ei chaneuon unigryw, yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gyfuniad a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Gymreig, cerddoriaeth fyd, cerddoriaeth werin a trip-hop gydag arddull avant garde. Mae hi’n creu caneuon lle mae geiriau yn hollbwysig, ac yn cofleidio egni emosiynol oesol cerddoriaeth draddodiadol ac eclectigiaeth afieithus diwylliant cyfoes. Mae llawer o gerddorion wedi dylanwadu arni, yn cynnwys Bjork, PJ Harvey, Portishead, Edith Piaf, Joni Mitchell a Meredith Monk.
|