|
Bydd mis Ebrill yn dechrau gyda There Was an Old Lady Who Swallowed a Fly (4 & 5 Ebrill), sioe hudolus sy’n seiliedig ar y rhigwm adnabyddus, yn llawn dop o ganeuon canadwy, anifeiliaid lliwgar a sbort twymgalon. Mae’r hwyl teuluol yn parhau gyda’r Ŵyl Ddawns Deuluol rad ac am ddim (7 & 8 Ebrill) awr lawn i’r ymylon â dawns ‘pop-up’ gan dri chwmni ardderchog o Gymru. Cynhelir sioe arbennig iawn ar 12 Ebrill, Our Life With Birds: Lloyd and Rose Buck; dewch i fwynhau cyfle prin i weld eryrod aur, gweilch tramor, hebogiaid a thylluanod yn fyw ar lwyfan, ac yn fwy syfrdanol, eu gweld yn hedfan uwchlaw’r gynulleidfa! Bydd yr actor teledu a seren Spandau Ballet, Martin Kemp, yn siarad yn ffraeth am ei yrfa ryfeddol yn An Audience With Martin Kemp (14 Ebrill), a bydd cyn brif leisydd Bellowhead a ‘stand out performer of his generation’ (The Guardian) Jon Boden (17 Ebrill) yn perfformio caneuon poblogaidd o’i albwm newydd sbon ‘Afterglow.’ Croesewir disgyblion o wyth ysgol leol i berfformio fel rhan o Ŵyl Ddawns De Powys (20 Ebrill), a daw Ballet Central (25 Ebrill) â pherfformiad gan ddawnswyr ifanc ar drothwy’u gyrfa broffesiynol. Ceir blas o Black Swan, Sleeping Beauty, Valley of Shadows a llawer mwy. Bydd Cymry Cymraeg a dysgwyr yn awyddus i brofi cynhyrchiad cyffrous o’r ddrama gyfnod Miss Julie (26 Ebrill) yn Gymraeg, mewn adfywiad o glasur iasol August Strindberg o’r 20fed ganrif. Noson yn llawn o fawrion glam-roc, ‘pwer ballads’ ac anthemau’r disgo fydd yn eich disgwyl gyda thaith yn ôl i oes aur pop yn Solid Gold 70s Show (27 Ebrill). Daw’r tymor i ben ag arddeliad wrth i Vamos Theatre gyflwyno A Brave Face (28 Ebrill). Y lle: Afghanistan. Y flwyddyn: 2009. Archwilir pwysau ôl-drawma yn arddull nodweddiadol, ddieiriau Vamos, mewn masgiau llawn.
|