|
Ychwanegodd Humphrey: "'Dyw ymweliad â Facebook ddim yn gyflawn heb weld ffrind yn rhannu statws am y 10km mae wedi'u rhedeg neu'u beicio cyn mynd i'r gwaith. Ond a yw sefydliadau chwaraeon yn dadansoddi neu'n cael gwybodaeth o'r 'data mawr' yma? Mae cyfle enfawr i wneud hyn, gan becynnu a hybu eu darpariaeth mewn ffordd a fydd yn taro tant gydag athletwyr ar-lein y dyfodol. Gall yr ymdeimlad ar-lein yma o gymuned helpu'r rhai sy'n hyfforddi ar eu pen eu hunain i deimlo'n rhan o dîm ond, fwy a mwy, bydd problem gydag eithrio digidol i'r rhai heb y dechnoleg. Mae'r llwybr amgen hwn at gymryd rhan wedi'i gau iddyn nhw."
|