|
Mae Ryan Jones, Pennaeth Datblygu Busnes Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda Nia Ramage, Cydlynydd Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau ac wedi bod yn defnyddio'r dysgu hyd yn hyn ar y prosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru mewn perthynas â digwyddiadau. Prosiect 2 flynedd a ariennir gan Ysbryd 2012 i geisio gwella ansawdd cynnwys gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau cyhoeddus. Bydd yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar reoli gwirfoddolwyr drwy gyfrwng Cydlynydd Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau a chwe astudiaeth beilot, a gynhelir gyda phartner-fudiadau a chwe digwyddiad gwahanol o amgylch Cymru.
|