|
Mae dinas Caerdydd yn falch tu hwnt o fod wedi cael ei dewis i groesawu WOMEX 2013, yr arddangosfa gerddoriaeth fyd flaenllaw. Dros gyfnod o bum niwrnod, bydd oddeutu 2500 o gynrychiolwyr o 1250 cwmni sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth, o 100 o wledydd a mwy na 300 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn ymgynnull yn Arena Motorpoint i drafod busnes, archwilio amrywiol ddiwylliannau cerddorol, gwrando ar 40 o siaradwyr mewn 20 o sesiynau cynadledda a sesiynau arddangos cerddoriaeth yn ystod y dydd. Gyda’r nos, bydd y sylw yn troi at Ganolfan Mileniwm Cymru yn y Bae a bydd y drysau yn agored i’r cyhoedd, arbenigwyr cerddoriaeth a chefnogwyr cerddoriaeth fyd, a bydd pawb, gyda’i gilydd yn mwynhau dros 60 sesiwn arddangos o’r gerddoriaeth fyd orau ar y blaned - a hynny ar 6 llwyfan ac yn ystod nosweithiau DJ ym Mae Caerdydd.
|