|
"Ers gadael 118 118 yn 2009, dw i 'di bod yn rhedeg Yogafever yng Nghaerdydd a'r Bont-faen, ac yn helpu i dyfu y gymuned ioga ar draws de Cymru. Wrth drafod gydag athrawon a myfyrwyr ioga eraill, daeth yn amlwg i mi fod eraill hefyd yn awyddus i wneud rhywbeth ar gyfer yr apêl, felly penderfynais ddechrau digwyddiad codi arian drwy ioga. Mae'r ymdrech ers hynny wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad codi arian ar raddfa dorfol, sef digwyddiad Ioga i'r Philipinau, gyda dros 20 o athrawon ioga ac ymarferwyr cyfannol eraill o bob rhan o dde Cymru yn cymryd rhan".
|