|
Dan nawdd yr AHRC, mae Dr Peter Bray yn gweithio ar y prosiect yn Labordy Ymchwil Archaeoleg a Hanes Celf (RLAHA) yn Rhydychen. Mae'n arbenigo ar olrhain tarddiad metelau a ddefnyddid yn Oes y Copr ac Oes yr Efydd. Mae'n casglu toreth o dystiolaeth a fydd yn amlygu cwmpas a natur cysylltiadau rhyngwladol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar. Yn ystod y blynyddoedd cyn iddo ymuno â'r tîm, bu'n cydweithio gyda'r Athro Mark Pollard, Cyfarwyddwr RLAHA, ar waith a esgorodd ar y cyhoeddiad pwysig: 'A new interpretative approach to the chemistry of copper-alloy objects: source, recycling and technology', Antiquity, 86 (2012), 853–67.
|