|
- Mae’n anodd dod i Gymru a chlywed ein cerddoriaeth heb weld neu glywed y delyn (y delyn farddol, y delyn deires neu’r delyn bedal). Yn wahanol i’r gwledydd Celtaidd eraill ni chafodd traddodiad y delyn ei dorri yng Nghymru. Mae’r delyn wedi mwynhau statws aruchel ac arbennig yng Nghymru erioed. Nid oes syndod felly, fod y llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth delyn a oroesodd yn Ewrop yn dod o Gymru, sef llawysgrif Robert ap Huw. Mae hon yn rhoi cipolwg heriol ar repertoire cerddorol yn nechrau’r Oesoedd Canol. Telynau pen-glin oedd y telynau cynharaf a chwaraeid yng Nghymru, ond yn raddol tyfasant o ran maint a chynyddodd nifer eu tannau. Mae’r Delyn Deires yn cael ei hystyried fel offeryn cenedlaethol Cymru. Daeth i Brydain o gyfandir Ewrop tua 1630 a daeth yn boblogaidd ymysg telynorion yn Llundain. Cymry oedd llawer o’r telynorion hyn, ac felly daeth y delyn hon a’i thair rhes o dannau - sy’n ei gwneud yn delyn gromatig - i Gymru. Daeth yn ffefryn ymhlith telynorion Cymru, ac yn arbennig yng nghymunedau’r Sipsiwn yng Nghymru, a fu â rhan bwysig yn y gwaith o ymledu ein traddodiad cerddorol.
|