|
Elen Ap Robert, Artistic Director of Pontio added, "At the heart of Pontio’s ethos is the bridging between worlds, between cultures and between communities and so it’s fitting for us to be co- curating an ambitious, three day China–Wales cultural exchange here. It’s particularly exciting to be doing so with the innovative Invertigo, our first ever associate theatre company, in this, the second of our three year partnership. The festival promises to be an entertaining and thought-provoking exchange between two very different cultural entities, and it would be true to say that the whole Pontio Arts team is bringing their particular expertise to the party – in film, digital art, technical creativity and performance participation. We trust there will be something for all – families, students and local community. And through exploring culinary possibilities with the collaboration between our Chinese students and Gorad restaurant there will be authentic Chinese food offer too, central to any Chinese celebration – it may even have a Welsh twist!"
|
|
Ychwanegodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, "Wrth galon ethos Pontio mae pontio bydoedd gwahanol, rhwng diwylliannau a rhwng cymunedau ac felly mae’n briodol ein bod yn cyd-guradu tridiau o gyfnewid diwylliannol Cymru-Tsieina. Mae’n arbennig o gyffrous i ni ein bod yn gwneud hynny gyda’r cwmni arloesol Invertigo, ein cwmni cysylltiol cyntaf a hynny yn ystod yn ein hail flwyddyn fel partneriaid. Mae’r ŵyl yn addo i fod yn un gyffrous fydd yn archwilio’r cyfnewid rhwng dau ddiwylliant cwbl wahanol, a bydd tîm Artistig Pontio yn dod a’u meysydd arbenigedd i’r parti – mewn ffilm, celf ddigidol, creadigrwydd technegol a chymryd rhan mewn perfformiadau. Bydd rhywbeth i bawb – teuluoedd, myfyrwyr a’r gymuned leol. Trwy archwilio’r posibiliadau o ran bwydydd gyda chydweithrediad ein myfyrwyr Tsieineaidd a bwyty Gorad, bydd bwyd Tsieineaidd hefyd ar gael, canolbwynt i unrhyw ddathliadau Tsieineaidd – efallai y bydd tro Cymreig arno hefyd!"
|