|
Mae’r cast yn cynnwys Wil Young sydd yn chwarae rhan Lennie. Mae Wil yn aelod o gwmni Academi y Gogledd Hijinx, un o bump Academi yng Nghymru sydd yn hyfforddi oedolion ag ana-bleddau dysgu ac/neu awtisiaeth i ddod yn actorion proffesiynol. Bydd Neil McWilliams (Volcano Theatre, The Other Room, Sherman Theatre) yn chwarae rhan George, Tom Mumford (NPT Theatres, August 012, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Slim, Anthony Corria (yn cael ei adnabod fel Wella; National Theatre Wales) a Sara Lloyd Gregory (Parch, Alys, Con Passionate, S4C; Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Curly a Gwraig Curly. Mae’r sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez (La Voix Humaine, Aldeburgh Festival 2017 / Gŵyl Llais 2016 Canolfan Mileniwm Cymru / Opera Cenedlaethol Cymru; Yuri, August 012 / Chapter / Underbelly Edinburgh 2016; City of the Unexpected, cyfarwyddwr cyswllt National Theatre Wales & Canolfan Mileniwm Cymru) a’r cynllunydd set yw Tina Torbey (Cynorthwy-ydd Stiwdio Cynllunio National Theatre, Llundain). Y Cynllunydd Goleuo yw Ace McCarron (Music Theatre Wales, Scottish Opera, English Touring Opera), y Cynllunydd Gwisgoedd yw Brighde Penn (sydd newydd raddio o gwrs meistr Cynllunio Perfformiadau yn Ngholeg Cerdd a Drama Cymru) a’r Cyfansoddwr yw Gareth Evans (Tonypandemonium National Theatre Wales; Roberto Zucco August 012). Bydd y sioe yn agor ar y 18fed o Hydref yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, ac yn perfformio tan yr 28ain o Hydref.
|