|
Bydd BBC NOW yn danfon ‘Telegramau Cerddorol’ i bobl sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 90 oed ar hyd a lled Cymru yn 2018. Bydd cerddorion o’r Gerddorfa yn perfformio’n arbennig i bobl mewn tri chartref gofal yn ystod wythnos pen-blwydd BBC NOW, er mwyn dathlu’r garreg filltir o 90 mlynedd gyda’r preswylwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd. Meddai Dan Trodden, Prif Chwaraewr Tiwba Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: "Mae’n fraint cael rhannu ein crefft â phobl nad ydyn nhw, o bosib, yn gallu teithio i weld Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y neuadd gyngerdd, a dyna anrhydedd ydy cael dathlu ein pen-blwydd yn 90 gyda nhw hefyd!"
|