|
Fel rhan o'r broses ddigido bydd modd trosi delweddau i destun gan ddefnyddio meddalwedd OCR. Gellir gwneud hyn ar gyfer deunyddiau printiedig addas er mwyn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio ac ailddefnyddio'r testun. Nod y Llyfrgell Genedlaethol yw darparu adysgrifau o'r llawysgrifau yn ogystal â chyfieithiadau Saesneg o'r deunyddiau Cymraeg. Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ar gael i holl ddefnyddwyr y wefan ond bydd hefyd yn sicrhau bod y cynnwys ar gael i'w chwilio gan beiriannau chwilio cyfrifiadurol.
|