|
|
Wrth fynd i'r wasg, mae cynhaeaf haidd y gaeaf wedi dechrau yn y DU. Mae arwyddion cynnar yn dangos ansawdd gwell o lawer o ran pwysau penodol a'r olwg sydd ar y samplau, ond maent yn isel iawn o ran nitrogenau a allai gynyddu cyflenwad y barlys porthiant. Mae'n amlwg bod y cynhaeaf gwenith yn eitha pell i ffwrdd. Mae'r amodau tyfu wedi bod yn ffafriol er gwaetha'r ffaith bod peth o gnwd y gwanwyn wedi gwywo yng ngwres mis Gorffennaf. Rydym yn gobeithio beth bynnag na fydd patrwm y tywydd yn torri jest wrth i'r cnydau aeddfedu. Yn gyffredinol, mae tyfwyr yn dweud wrthym fod golwg dda iawn ar y cnydau, ond byddwn ni bob amser yn gwerthfawrogi'r adborth diweddaraf gennych, felly dewch i siarad â ni ar 01284 764915.
|