|
Established in 1998 by artists Anthony Shapland and Chris Brown, the public space has become an integral component of the UK artist-led scene, and is a hub for the country’s creative community as well as a direct line for audiences to access Cardiff’s cultural scene. Following relocation in late 2011 it is now one of the largest spaces for contemporary visual art in Wales, with 6,700 sq ft of open plan exhibition space.
|
|
Mae g39 yn sefydliad dynamig sy'n cael ei arwain gan artistiaid sy'n hyrwyddo celf fodern yng Nghymru. Mae'n oriel, yn fan cymunedol ac yn adnodd, ac mae'n lleoliad sy'n estyn croeso i gynulleidfaoedd brofi casgliad o gelfyddyd gyfoes, fwyaf perthnasol a chyffrous Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 1998 gan yr artistiaid Anthony Shapland a Chris Brown, ac mae'r lleoliad cyhoeddus wedi dod yn rhan annatod o sîn artistiaid y DU ac yn ganolbwynt i gymuned greadigol y wlad yn ogystal â bod yn llinell uniongyrchol i gynulleidfaoedd gael mynediad i ddiwylliant Caerdydd. Ers adleoli ar ddiwedd 2011, mae bellach yn un o'r lleoedd mwyaf ar gyfer celfyddyd weledol gyfoes Cymru, sy'n fan arddangos cynllun agored 6,700 o droedfeddi sgwâr. Ers y dechrau, mae g39 wedi comisiynu a chyflwyno gwaith cyfoes, heriol ac arloesol i gynulleidfaoedd eang; hyd heddiw mae g39 wedi arddangos gwaith tua 700 o artistiaid i fwy na 70,000 o ymwelwyr. Cydnabyddir fod ei waith yn hybu rhwydweithiau diwylliannol sy'n ffynnu yng Nghymru ac yn y DU. Mae gan yr oriel raglen barhaus o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae hefyd yn cynhyrchu cyhoeddiadau artistiaid, prosiectau oddi ar y safle ledled y ddinas, a gweithgareddau eraill.
|