|
Dywedodd Cyfarwydd Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: "Ar ôl llwyddiant ysgubol Richard III llynedd, rwy’n falch iawn unwaith eto fod y Ganolfan yn gweithio ar y cyd ag Omidaze ar eu hail gynhyrchiad. Mae’n gyffrous am gynifer o resymau, dyw’r cynhyrchiad yma ddim yn unig yn codi ymwybyddiaeth am yr angen am ragor o rolau i ferched yn y theatr ac oddi ar y llwyfan, ond mae’n herio rhagdybiaethau am sut y dylai Shakespeare gael ei berfformio ac i bwy y mae’n apelio. Roedd ein gwagle to yn sicr wedi profi ei hun fel gofod perfformio cyffrous llawn awyrgylch pan gafodd ei ddefnyddio gyntaf i lwyfannu Richard III gan Omidaze, does dim amheuaeth y bydd yn disgleirio unwaith eto fel lleoliad ar gyfer y ddrama ysbrydoledig yma."
|
|
Artistic Director at Wales Millennium Centre, Graeme Farrow, commented: "After the incredible success of Richard III last year, I’m very pleased the Centre is once again working with Omidaze Productions on a second all-female Shakespeare production. Exciting for so many reasons, the production not only raises awareness of the need for increased roles for women in theatre, but also challenges preconceptions about how Shakespeare should be performed and who it can appeal to. Our roof-void certainly proved itself as an exciting and atmospheric performance space when it was first used for the staging of Richard III, and I have no doubt it will shine again for this inspiring play."
|