|
Rydym hefyd yn falch iawn o allu cyflwyno The Shouting Match yn ei gyfanwaith, ar ffurf gosodiad pedwar sgrîn. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys golygfeydd o weiddi pur: mae parau amrywiol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd â grym lleisiol. Caiff gornestau mewn pedwar lleoliad dinesig ledled y byd – Llundain, Bangalore, Tel Aviv a New Orleans – eu gosod yn erbyn ei gilydd. Mae The Shouting Match yn ymateb i'r gynneddf gyfoes gyffredin o fynnu bod popeth mor uchel ag y gall fod; mae dweud dim byd – ddim ond i'r dim byd hwnnw gael ei ddweud mor uchel â phosib – yn drosiad addas o'r byd modern, ac yn un o nodweddion pennaf teledu realiti neu sioeau cwis. Eto i gyd, mae yna wahaniaethau diwylliannol trawiadol rhwng y pedwar lleoliad a gyflwynir yn The Shouting Match. Nid pob un sy'n gweiddi'r un fath. Mae trigolion Bangalore, er enghraifft, yn credu, yn gyffredinol, bod gweiddi'n arwain at anlwc, felly mae'r cyfranogwyr yn y fan honno yn mynd ati â gofal; yn Tel Aviv, mae'r gwirfoddolwyr, y daethpwyd o hyd iddynt mewn strydoedd cyfagos, fel petaent yn amheus o'r camera ac yn poeni, efallai, y gallai hon fod yn eitem negyddol arall am Israel ar y cyfryngau. Yn New Orleans, mae hi fel petai hi'n rhy boeth neu yn ormod o drafferth i weiddi ac mae agwedd y bobl yn y fan honno at y sialens yn fwy cyfnewidiol. Yn Llundain, mewn archfarchnad anghyfannedd, mae'r cyfranogwyr yn rhoi eu swildod o'r neilltu ac yn ymroi i'r gystadleuaeth gorff ac enaid.
|