|
|
O 1200 CC ymlaen dechreuodd y gwahanol gymdeithasau adael mwy a mwy o olion aneddiadau, gan awgrymu bod y cymunedau yn ffermio tiroedd yn llawer mwy dwys erbyn hynny. Codwyd caearau ar fryniau gyda rhagfuriau trawiadol, ac weithiau byddai llawer o adeiladau o'u mewn. Roedd y rhain yn cael eu codi a'u defnyddio gan gymunedau gweddol fawr, ond mae'n bosibl iddynt gyflawni nifer o swyddogaethau, er enghraifft bod yn geyrydd amddiffynnol, yn noddfa dros dro mewn argyfwng, canolfannau cyfnewid neu'n fannau cyfarfod crefyddol neu gymdeithasol. Roedd llawer o bobl yn byw mewn tai crynion ar ffermydd bychain wedi'u hamgáu gan gloddiau neu waliau. Ar eu holau gadawsant gasgliadau o bethau 'pob-dydd', er enghraifft troellau gwerthydau, meini melin ar gyfer malu grawn ac offer haearn.
|